1. Daearyddiaeth: diffinio daearyddiaeth lleoedd i’w cynnwys ar wefan Deall Lleoedd Cymru
  2. Dosbarthiad demograffig ac economaidd-gymdeithasol: gosod cyd-destun pob lle
  3. Dosbarthiad yn ôl maint y boblogaeth: grwpio lleoedd yn ôl maint aneddiadau preswylwyr
  4. Model rhyng-berthynas: mae hwn yn edrych ar ryng-berthynas lleoedd ac i ba raddau maen nhw’n annibynnol, yn rhyng-ddibynnol neu’n ddibynnol
  5. Mapiau llif poblogaeth a graffiau: dangos symudiad, neu ‘lif’, pobl o un lle i’r llall.
  6. Cysylltedd: dangos sut mae lleoedd wedi'u cysylltu ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd

Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn diffinio lle fel anheddiad â 1,000 neu ragor o breswylwyr, ac mae’n nodi’r aneddiadau hyn gan ddefnyddio diffiniadau ffiniau o Ardaloedd Adeiledig Cyffiniol a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae’r dull hwn yn nodi 307 o leoedd, a’r rhain yw sylfaen ddaearyddol gwefan Deall Lleoedd Cymru. Mae gan 193 o’r lleoedd hyn boblogaeth o 2,000 o breswylwyr neu ragor. Dewiswyd y lleoedd hyn i wneud sylwadau ystadegol mwy manwl ar wefan Deall Lleoedd Cymru gan eu bod yn cynnwys poblogaeth ddigon mawr i wneud dadansoddiad ystadegol cadarn.

Cafodd ardaloedd adeiledig cyffiniol eu diffinio ar gyfer Cyfrifiad Poblogaeth 2011 gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a ’r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Mae ardaloedd adeiledig cyffiniol yn gyfuniad o set ddata ardaloedd adeiledig a set ddata is-adrannau ardaloedd adeiledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae ardal adeiledig gyffiniol naill ai’n ardal adeiledig neu, lle mae ardal adeiledig yn ddigon mawr i gael ei rhannu’n is-adrannau, is-adrannau’r ardal adeiledig hon. Mae dogfennaeth lawn ar yr ardaloedd adeiledig wedi’i chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (1). Mae ardaloedd adeiledig cyffiniol yn defnyddio amrediad eang o ddata llywodraeth cenedlaethol, oherwydd gall ardaloedd daearyddol llai o faint (fel ardaloedd allbwn cyfrifiad) gael eu grwpio’n hawdd mewn ardaloedd adeiledig cyffiniol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith fod Deall Lleoedd Cymru yn ymwneud â lleoedd, ac nid awdurdodau lleol neu ardaloedd daearyddol eraill, a bod cysondeb a’r ffactorau cymharedd ledled Cymru’n egwyddorion allweddol o’r prosiect.

Ar ryngwyneb we Deall Lleoedd Cymru, defnyddir y term ‘lleoedd’ yn hytrach nag ardaloedd adeiledig cyffiniol.

Mae Cyfrifiad Poblogaeth 2011 Cymru yn darparu data ar amrediad o ddangosyddion demograffig, cymdeithasol ac economaidd. Cafodd data ar gyfer cyfres o newidion eu lawrlwytho ar gyfer ardaloedd daearyddol bach ( Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is) a’u cysylltu ag ardaloedd adeiledig cyffiniol gan ddefnyddio’r fethodoleg ffit orau a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru (2). Defnyddiwyd y newidynnau hyn i ddosbarthu’r 193 o leoedd â phoblogaeth o fwy na 2,000 o breswylwyr neu ragor gan ddefnyddio’r weithdrefn glystyru ystadegol, K-Means. Mae’r dull hwn yn dilyn y dull a ddefnyddiwyd gan Shepherd ar gyfer Lloegr yn 2009 (3) a hefyd prosiect Deall Lleoedd yr Alban (4). Cafodd y newidynnau eu dadansoddi ychydig ymlaen llaw er mwyn deall dimensiynau’r data a sicrhau y byddai’r newidynnau yn cynnig digon o ehangder ac amrywiaeth i gynhyrchu dosbarthiad ystyrlon.

Gellir gweld crynodeb manwl o’r newidynnau demograffig ac economaidd-gymdeithasol a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad ac sydd ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan yn yr Atodiad ar ddiwedd y dudalen hon.

Newidynnau Cartrefi (% o gyfanswm y cartrefi)

Perchen ar gar

  1. Nifer o geir
  2. 1 Car
  3. 2 gar neu fwy
Deiliadaeth (% yr holl aelwydydd)
  1. Perchennog tŷ
  2. Rhentu tŷ awdurdod lleol neu dŷ cymdeithasol
  3. Rhentu preifat
Amodau Cymdeithasol
  1. Gweithgareddau bob dydd wedi’u cyfyngu gan broblem iechyd neu anabledd hirdymor (% o gyfanswm y boblogaeth)
  2. Di-waith
  3. Nodi bod iechyd yn ddrwg neu’n ddrwg iawn (iechyd gwael) (% o gyfanswm y boblogaeth)
  4. Llety gorlawn (% o gyfanswm y boblogaeth)
  5. Dim cymwysterau
  6. Buddion Cyflogaeth (% o’r boblogaeth o oed gweithio)
Cyfansoddiad y cartref (% o’r holl gartrefi)
  1. Person sengl
  2. Priod heb blant
  3. Priod gyda phlant
  4. Cyd-fyw heb blant
  5. Cyd-fyw gyda phlant
  6. Rhiant sengl heb blant
  7. Rhiant sengl gyda phlant
  8. Nifer o fyfyrwyr
  9. Nifer o bobl - arall – (nid myfyrwyr)
Newidynnau demograffig (% o gyfanswm poblogaeth y preswylwyr)

Dosbarthiad Oedran
  1. 0-4 oed
  2. 5-9 oed
  3. 10-15 oed
  4. 16-24 oed
  5. 25-44 oed
  6. 45-64 oed
  7. 65-74 oed
  8. 75 oed a hŷn

Cyflogaeth (% o bobl o oed gweithio 16-74 oed mewn cyflogaeth)

Oriau gwaith
  1. Rhan amser
  2. Amser llawn

Diwydiant
  1. Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  2. Mwyngloddio a chwarela
  3. Gweithgynhyrchu
  4. Masnach cyfanwerthu a manwerthu, trwsio cerbydau a beiciau modur
  5. Cludiant a storio
  6. Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
  7. Gwybodaeth a chyfathrebu
  8. Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
  9. Gweithgareddau eiddo tirol
  10. Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  11. Gweithgareddau gwasanaethau gweinyddol a chymorth
  12. Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn, nawdd cymdeithasol gorfodol
  13. Addysg
  14. Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol
Newidynnau economaidd-gymdeithasol

Addysg (% y boblogaeth o breswylwyr arferol 16 oed a hŷn)
  1. Dim cymwysterau
  2. Lefel 1 - cymwysterau hyd at lefel 1, e.e. 1-4 Lefel O/CSE/TGAU unrhyw raddau
  3. Lefel 2 - cymwysterau hyd at lefel 2, e.e. 5 neu ragor o gymwysterau Lefel O/CSE/TGAU graddau A*-C
  4. Lefel 3 - cymwysterau hyd at lefel 3, e.e. 2+ Safon Uwch
  5. Lefel 4 ac uwch - cymwysterau hyd at lefel 4 ac uwch, e.e. Gradd (BA/BSc), Gradd Uwch (MA/MSc/PhD)
Galwedigaeth (% y bobl rhwng 16-74 oed)
  1. Myfyriwr
  2. Wedi ymddeol
  3. Gofalu am y cartref neu deulu
  4. Anweithredol
  5. Cyflogai
  6. Hunangyflogedig
  7. Di-waith
Graddfa Gymdeithasol (% y boblogaeth o breswylwyr arferol rhwng 16-64 oed)
  1. Graddfa gymdeithasol 1: Proffesiynol a rheoli
  2. Graddfa gymdeithasol 2: Gweinyddol coler wen, goruchwyliol a chlerigol
  3. Graddfa gymdeithasol 3: Gwaith llaw crefftus
  4. Graddfa gymdeithasol 4: Gwaith llaw lled-grefftus, heb grefft a di-waith
Hunaniaeth genedlaethol
  1. Cenedligrwydd Prydeinig (% y boblogaeth o breswylwyr)
  2. Cenedligrwydd Cymreig (% y boblogaeth o breswylwyr)
  3. Siarad Cymraeg (% y boblogaeth o breswylwyr 3+ oed)
  4. Ganwyd yng Nghymru (% y boblogaeth o breswylwyr)
Cymysgedd wledig / trefol
  1. Canran yr ardaloedd adeiledig cyffiniol a ystyrir yn wledig
  2. Canran yr ardaloedd adeiledig cyffiniol a ystyrir yn drefol

Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru wedi dosbarthu’r 193 o leoedd yn saith grŵp (1-7), yn seiliedig ar ddadansoddiad K-means o’r newidynnau a drafodwyd yn gynharach. Gweithdrefn ystadegol yw clystyru K-means sy’n ceisio nodi’r gwahaniaethau mwyaf posibl rhwng categorïau a lleihau’r gwahaniaethau o fewn categorïau. Golyga hyn bod lleoedd o fewn yr un categori mor debyg i’w gilydd â phosibl, ac ar yr un pryd, mor annhebyg â phosibl i leoedd mewn categorïau eraill. Mae clystyru K-means yn seiliedig ar bellter rhifyddol rhwng lleoedd, a gynrychiolir gan sgorau ar y newidynnau mewnbwn. Rhoddir gwerth i bob categori fel y pwynt canolog, neu’r craidd. Mae nifer y categorïau’n dangos nifer y creiddiau, a chaiff y pellteroedd eu mesur o werthoedd y creiddiau hyn. Mae’r lleoedd yn cael eu categoreiddio drwy leihau’r pellter rhwng sgôr pob lle a gwerth y craidd. Mae’r broses yn iteraidd, gyda lleoedd yn cael eu symud rhwng categorïau ar bob iteriad hyd oni ddeuir o hyd i’r datrysiad mwyaf priodol. Mae’r broses yn stopio pan na ellir symud unrhyw le rhwng categorïau.

Roedd y weithdrefn glystyru’n ymwneud ag ailadrodd y broses ar gyfer niferoedd gwahanol o gategorïau posibl. Dyfarnwyd bod gormod o fanylion (gormod o gategorïau) neu elfennau rhy gyffredin (dim digon o gategorïau) gan ddefnyddio cyfuniad o brofion diagnostig ystadegol ar y categorïau a’u heglurder fel grŵp amlwg o leoedd. Gwnaeth hyn gynhyrchu tri gwahanol ddosbarthiad posibl a oedd yn seiliedig ar osod lleoedd yn bump, chwech neu saith categori. Ar ôl ymgynghori â chyfranogwyr mewn gweithdy rhanddeiliaid a gwneud dadansoddiad ystadegol o’r data, cafodd y dosbarthiad saith categori ei ddewis.

Wrth reswm, disgwylir y bydd maint anheddiad, o ran poblogaeth y preswylwyr, yn effeithio ar y swyddogaethau a’r gwasanaethau a ddarperir mewn lle. Felly, cafodd y categorïau a nodwyd uchod eu gwahanu o ran maint y lleoedd. Dengys y tabl faint y categorïau a ddefnyddiwyd, sy’n cyd-fynd â maint anheddiad y boblogaeth a ddefnyddiwyd yn y fethodoleg ar gyfer ardal adeiledig gyffiniol.

Poblogaeth Nifer y Lleoedd
Llai na 2,000 0
2,000 - 9,999 134
10,000 - 24,999 40
25,000 – 99,999 16
100,000 a throsodd 3


Trwy gyfuno’r saith grŵp (1-7) gyda’r pedwar categori ar gyfer maint anheddiad y boblogaeth, crëwyd 18 o wahanol grwpiau (h.y. roedd 10 cyfuniad o grwpiau a maint anheddiad poblogaeth nad oedd yn cynnwys unrhyw leoedd).

Dim ond un lle oedd yn rhan o ddau o'r 18 grŵp hyn. Ym mis Rhagfyr 2020, yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr, penderfynwyd dileu'r ddau grŵp dan sylw ac uno'r ddau le i'r grŵp yn yr un categori oedd yn cyfateb agosaf i faint eu poblogaeth. O ganlyniad, mae Porthcawl wedi'i symud o Gategori 4, maint y boblogaeth 10,000-24,999, i Gategori 4, maint y boblogaeth 2,000-9,999, a Bae Colwyn wedi'i symud o Gategori 5, maint y boblogaeth 25,000-99,000, i Gategori 5, maint y boblogaeth 10,000-24,999. Mae hyn wedi lleihau nifer terfynol y grwpiau i 16.

Nifer y Lleoedd
Categori Poblogaeth: 2,000 – 9,999 Poblogaeth: 10,000 – 24,999 Poblogaeth: 25,000 – 99,999 Poblogaeth: 100,000 a throsodd
1 23 9 2 0
2 28 9 3 0
3 16 13 10 3
4 19 0 0 0
5 27 5 0 0
6 22 2 0 0
7 0 2 0 0

Lefel nesaf Deall Lleoedd Cymru oedd cymhwyso model rhyng-berthynas. Mae’r model rhyng-berthynas yn seiliedig ar waith ymchwil y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf ar gydnerthedd lle (6). Mae model cydnerthedd CLES yn archwilio’r asedau a’r cydberthnasau sydd gan leoedd rhwng y sectorau cyhoeddus, masnachol a chymdeithasol a sut mae’r rhain yn llunio gweithrediad eu heconomïau. Mae’r model rhyng-berthynas yn archwilio’r cysylltiadau hyn ymhellach drwy nodi i ba raddau y mae lleoedd yn dibynnu ar leoedd cyfagos, neu fel arall, am yr asedau a’r cydberthnasau hyn.

Yn y prosiect Deall Lleoedd Cymru, rydym wedi datblygu ffordd o archwilio’r rhyng-berthynas rhwng lleoedd gan ddefnyddio set o ddangosyddion. Mae’r dangosyddion hyn yn ein galluogi i ddiffinio annibyniaeth, rhyngddibyniaeth, a dibyniaeth gymharol yr 193 o leoedd yng Nghymru sydd â phoblogaeth o fwy na 2,000 o bobl. Y model rhyng-berthynas yw’r enw rydym wedi’i roi ar hwn.

An independent place will have a high number of public; commercial; and social economy assets in relation to its population. This will include GP surgeries and charities. It will have a diverse sector base in terms of jobs. Residents will travel short distances to work and services and the place will attract people from neighbouring places to access its assets.

A dependant place will have a low number of public; commercial; and social economy assets in relation to its population. It will be reliant on singular sectors in terms of jobs. Residents will travel longer distances to work and services and the place will be reliant on neighbouring places for assets and jobs.

An interdependent place will sit somewhere between independent and dependent places. For some public, commercial and social economy assets it may have a high number in relation to its population and for others a low number. A balance of people will work in the place with others reliant on neighbouring places for work and services.

Approach

Yn y fersiwn o Deall Lleoedd Cymru a lansiwyd ym mis Medi 2019, defnyddiwyd un ar ddeg dangosydd i archwilio’r rhyngberthynas rhwng ac o fewn lleoedd yng Nghymru. Diweddarwyd hyn ym mis Rhagfyr 2020 i gynnwys pedwar ar ddeg o ddangosyddion.

Dewiswyd y dangosyddion hyn ar sail y data a oedd ar gael yn genedlaethol. Mae’r dangosyddion yn darlunio tri pheth:

  1. Mae yna ddangosyddion sy’n nodi’r nifer o asedau penodol sydd gan le o’u cymharu â’u phreswylwyr neu boblogaeth o oed gweithio;
  2. Mae yna ddangosyddion sy’n nodi amrywiaeth y busnesau a’r cyfleoedd gwaith sydd gan le;
  3. Mae yna ddangosyddion sy’n nodi pa mor bell y mae angen i’r bobl sy’n preswylio yn y lle deithio i’r gwaith ac i ddefnyddio gwasanaethau.


Er mwyn cwblhau pob dangosydd, rydym wedi casglu data o ffynonellau amrywiol ar gyfer pob un o’r 193 o leoedd yng Nghymru sydd â phoblogaeth o fwy na 2,000 o bobl. Mae’r 14 o ddangosyddion a’r ffynonellau data cysylltiedig fel a ganlyn:

  1. Nifer yr elusennau cofrestredig ac ymddiriedolwyr - dyma nifer yr elusennau ac ymddiriedolwyr sydd yn y lle mewn perthynas â’r boblogaeth o breswylwyr. Casglwyd y data gan y Comisiwn Elusennau;
  2. Nifer y meddygfeydd a deintyddfeydd - dyma nifer y meddygfeydd a deintyddfeydd sydd yn y lle mewn perthynas â’r boblogaeth o breswylwyr. Casglwyd y data ar feddygfeydd o set ddata Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a chawsom y data ar ddeintyddfeydd o GIG Lloegr;
  3. Nifer yr ysbytai - dyma nifer yr ysbytai sydd yn y lle mewn perthynas â’r boblogaeth o breswylwyr. Casglwyd y data gan GIG Cymru;
  4. Nifer y plant mewn ysgolion cynradd - dyma nifer y plant mewn ysgolion cynradd yn y lle mewn perthynas â’r boblogaeth o breswylwyr. Casglwyd y data o Lywodraeth Cymru;
  5. Nifer y plant mewn ysgolion uwchradd - dyma nifer y plant mewn ysgolion uwchradd yn y lle mewn perthynas â’r boblogaeth o breswylwyr. Casglwyd y data o Lywodraeth Cymru;
  6. Nifer y swyddi - dyma nifer y swyddi yn y lle mewn perthynas â’r boblogaeth o oed gweithio (16-64 oed). Casglwyd y data o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth;
  7. Amrywiaeth o swyddi - dyma nifer y swyddi mewn sectorau penodol yn y lle ac i ba raddau y maen nhw’n amrywio neu’n ddibynnol o ran sectorau. Casglwyd y data o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth;
  8. Swyddi yn y sector cyhoeddus - dyma nifer y swyddi yn y sector cyhoeddus sydd gan y lle mewn perthynas â’r holl swyddi. Mae nifer isel ac uchel o swyddi yn arwydd o ddibyniaeth ar naill ai’r sector cyhoeddus neu sectorau eraill. Casglwyd y data o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth;
  9. Nifer y siopau - dyma nifer y siopau sydd yn y lle mewn perthynas â’r boblogaeth o breswylwyr. Casglwyd y data o set ddata Mannau o Ddiddordeb Arolwg Ordnans;
  10. Pellter a deithir i’r gwaith - dyma’r pellter a deithir gan breswylwyr o oed gweithio o’r lle i gyrraedd eu swyddi. Casglwyd y data o Gyfrifiad 2011;
  11. Amrywiaeth y cynnig manwerthu - dyma ganran y mathau o fanwerthu yn y lle mewn perthynas â 37 o wahanol fathau o fanwerthu. Po uched yw’r ganran, mwya’n byd yw’r amrywiaeth mewn mathau o fanwerthu. Casglwyd y data o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth.
  12. Pellter at fannau gwyrdd - dyma ganran yr aelwydydd sydd o fewn taith gerdded 5 munud (300m) i fan gwyrdd naturiol hygyrch. Casglwyd y data o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.
  13. Nifer y busnesau achosol - Mae busnesau achosol yn ailfuddsoddi eu gwarged yn y gymuned leol, gan gadw cyfoeth er budd eu lle lleol yn hytrach na sicrhau'r elw mwyaf posib i gyfranddalwyr a pherchnogion. Darparwyd y data hwn, sy’n dangos nifer y busnesau achosol mewn lle, gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES). Mae'n seiliedig ar eu dadansoddiad o strwythurau cyfreithiol cwmnïau o gronfa ddata Tŷ'r Cwmnïau, a dynnwyd ym mis Mai 2020.
  14. Cyfartaledd amser teithio at wasanaethau - crëwyd hyn gan ddefnyddio cyfartaledd yr amser teithio a dychwelyd (mewn munudau) ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat ar gyfer detholiad o wasanaethau: ysgolion cynradd ac uwchradd cyhoeddus, llyfrgelloedd cyhoeddus, cyfleusterau chwaraeon a gorsafoedd petrol. Defnyddiwyd un cyfartaledd amser teithio a dychwelyd er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysoliad i fynediad at y gwasanaethau hyn yn sgôr rhyngberthynas derfynol lle. Casglwyd y data o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.


Mae’r data wedyn wedi’i ddadansoddi gan ddefnyddio’r darlun mwyaf priodol o’r tri darlun a amlinellwyd ynghynt (nifer yr asedau; amrywiaeth o fusnesau a chyflogaeth; a’r pellter a deithir). Wedi hyn, mae’r lleoedd wedi’u rhannu’n un rhan o saith ar gyfer pob dangosydd, yn dibynnu ar eu safle ledled yr 193 o leoedd, a rhoddir sgôr briodol iddynt. Mae lleoedd yn yr un rhan o saith uchaf ym mhob dangosydd (nifer uchel o siopau fesul preswylydd, er enghraifft) wedi sgorio 6 ac mae lleoedd ar waelod yr un rhan o saith (nifer isel o siopau fesul preswylydd, er enghraifft) wedi sgorio -6 gyda chynyddrannau o 4, 2, 0, -2 a -4 rhyngddynt.

Unwaith rydym wedi dadansoddi pob dangosydd ar gyfer pob lle, rydym wedyn wedi adio’r sgorau unigol i gael cyfanswm ar gyfer y lle. Y sgôr gyfunol uchaf yw 58, a’r lleiaf yw -62. Wedyn, rydym wedi cymryd y gwahaniaeth (120) rhwng yr uchaf a’r isaf a rhannu’r lleoedd yn saith cynyddran cyfartal. Er enghraifft, mae’r lleoedd sydd wedi sgorio rhwng 41 a 58 yn y cynyddran uchaf. Yn dilyn hyn, maent wedi cael yr asesiadau canlynol:

  1. Cynyddran cyntaf - Annibynnol
  2. Ail gynyddran - Annibynnol i Ryngddibynnol;
  3. Trydydd cynyddran - Rhyngddibynnol i Annibynnol;
  4. Pedwerydd cynyddran - Rhyngddibynnol;
  5. umed cynyddran - Rhyngddibynnol i Ddibynnol;
  6. Chweched cynyddran - Dibynnol i Ryngddibynnol;
  7. Seithfed cynyddran - Dibynnol


Mae hyn yn rhoi sgôr ac asesiad cyffredinol i bob lle gan ddefnyddio ein model rhyng-berthynas.

Mae gan leoedd Annibynnol nifer uchel o asedau mewn perthynas â’u poblogaeth; amrywiaeth gref o swyddi; ac mae angen i breswylwyr deithio llai o bellter i’r gwaith nac at wasanaethau. Bydd y lleoedd hyn yn denu pobl o leoedd cyfagos er mwyn defnyddio’u hasedau a’u swyddi

Mae gan leoedd Annibynnol i Ryngddibynnol nifer dda o asedau mewn perthynas â’u poblogaeth. Mae gan y lleoedd hyn amrywiaeth dda o swyddi; ac ar y cyfan, mae angen i breswylwyr deithio llai o bellter i’r gwaith nac at wasanaethau. Mae’r lleoedd hyn yn denu pobl o leoedd cyfagos er mwyn defnyddio rhai o’u hasedau a’u swyddi.

Mae gan leoedd Rhyngddibynnol i Annibynnol nifer dda o asedau mewn perthynas â’u poblogaeth. Mae ganddynt ychydig o amrywiaeth o swyddi; ac mae gan y mwyafrif o breswylwyr bellter llai i deithio i’r gwaith nac at wasanaethau, er bod rhai yn teithio’n bellach. Mae’r lleoedd hyn yn denu pobl o leoedd cyfagos er mwyn defnyddio rhai o’u hasedau a’u swyddi

Mae gan leoedd Rhyngddibynnol nifer cymedrol o asedau mewn perthynas â’u poblogaeth; amrywiaeth gyfartalog o swyddi; a rhaid i breswylwyr deithio cymysgedd o bellter byr a hir i deithio i’r gwaith nac at wasanaethau. Mae’r lleoedd hyn yn denu pobl o leoedd cyfagos sy’n dod i gael rhai asedau a swyddi, ond maen nhw hefyd yn dibynnu ar leoedd cyfagos am asedau a swyddi eraill

Mae gan leoedd Rhyngddibynnol i Ddibynnol nifer isel o asedau mewn perthynas â’u poblogaeth. Mae ganddynt ychydig o amrywiaeth o swyddi; a rhaid i’r mwyafrif o breswylwyr deithio cryn bellter i’r gwaith nac at wasanaethau, er bod rhai yn teithio llai o bellter. Maen nhw’n dibynnu ar leoedd cyfagos am rai asedau a swyddi

Mae gan leoedd Dibynnol i Ryngddibynnol nifer isel o asedau mewn perthynas â’u poblogaeth. Ychydig iawn o amrywiaeth sydd yno o ran swyddi; ac ar y cyfan, rhaid i breswylwyr deithio mwy o bellter i’r gwaith nac at wasanaethau. Maen nhw’n dibynnu ar leoedd cyfagos am rai asedau a swyddi

Mae gan leoedd Dibynnol nifer isel o asedau mewn perthynas â’u poblogaeth; maen nhw’n dibynnu ar un sector am swyddi; a rhaid i breswylwyr deithio mwy o bellter i’r gwaith nac at wasanaethau. Maen nhw’n dibynnu ar leoedd cyfagos am asedau a swyddi.

Yn sgil diweddariad mis Rhagfyr 2020 o'r model rhyngberthynas, newidiodd 70 (36%) o leoedd eu dosbarthiad. O'r rhain, daeth 11 (7%) o leoedd un categori yn fwy dibynnol, daeth 59 (30%) o leoedd un categori yn llai dibynnol ac arhosodd 123 (63%) o leoedd yn yr un categori.

Mae'r newidynnau hyn yn cynrychioli nodweddion lle pwysig. Fodd bynnag, nid ydynt wedi'u cynnwys yn y model rhyngberthynas gan na fyddem yn disgwyl iddynt ddylanwadu ar ddewis unigolyn o ymweld ag un lle dros le arall.

  1. Safleoedd heb fand eang cyflym iawn - dyma ganran y cartrefi a’r busnesau bach sy'n methu derbyn band eang llinell sefydlog ar gyflymder lawrlwytho o 30Mb yr eiliad. Casglwyd y data o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019;
  2. Nifer y tai bach cyhoeddus - dyma gyfanswm nifer y tai bach cyhoeddus mewn lle. Gallai’r cyfrif gynnwys parciau carafannau neu wyliau ond nid yw’n cynnwys tai bach mewn safleoedd fel siopau neu dafarndai. Casglwyd y data o set ddata Pwyntiau Diddordeb yr Arolwg Ordnans, Mawrth 2020;
  3. GP-recorded metal health condition - this is the percentage of people with a current diagnosis of one or more of the following conditions: depression, low mood, anxiety disorder, dementia and severe mental illnesses. Data has been gathered from Welsh Index of Multiple Deprivation 2019.

Cyflwr iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddyg teulu - dyma ganran y bobl sydd â diagnosis cyfredol o un neu fwy o'r cyflyrau canlynol: iselder, hwyliau isel, anhwylder gorbryder, dementia a salwch meddwl difrifol. Casglwyd y data o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.

Llif Cymudwyr

Mae llifau cymudo yn dangos symudiad pobl o'u hardal breswyl arferol i'w gweithle arferol. Mae pob math o drafnidiaeth wedi'i chynnwys. Cyfrifir y llifau cymudo o dablau gweithle cyrchfan tarddiad a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac yn seiliedig ar ymatebion i Gyfrifiad 2011, wedi'u hagregu a'u hidlo i ddaearyddiaeth CBUA. Mae'r mapiau o lif cymudo wedi'u cyfyngu i leoedd yng Nghymru gyda phoblogaeth o dros 2,000 o bobl.

Rydym hefyd yn cynnwys llifau i ac o Ardaloedd Awdurdodau Lleol Lloegr (LAD) ar hyd ffin Cymru (yr ydym yn eu galw'n awdurdodau ffiniau Lloegr) ac, yn mynd ymhellach i ffwrdd, i Ranbarthau Lloegr. Os bydd LAD yn digwydd o fewn Rhanbarth (e.e. Caerloyw yn y De-orllewin), rydym yn addasu llifau'r Rhanbarth yn unol â hynny. Nid yw llifau cymudo i'r Alban a Gogledd Iwerddon ar gael.

Mae'r categori “Gwaith mewn lleoliadau eraill” yn cynnwys pobl heb weithle sefydlog (e.e. gyrwyr cyflenwi) a phobl sy'n gweithio mewn mannau fel gosodiad alltraeth neu y tu allan i'r DU.

Ar gyfer y graff radial o bobl sy'n cymudo i'r lle a ddewiswyd, fe wnaethom dynnu'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y lle a ddewiswyd cyn cyfrifo'r canrannau i symleiddio'r arddangosfa a sicrhau cysondeb â'r graff radial arall yn y pâr sy'n cyflwyno'r wybodaeth hon.

Llif Mudo

Mae llif mudo yn dangos symudiad pobl o'u man preswylio flwyddyn cyn Cyfrifiad 2011, i'w man preswylio ar ddiwrnod Cyfrifiad 2011. Yn Deall Lleoedd Cymru, mae mapiau llif mudo wedi'u cyfyngu i leoedd yng Nghymru sydd â phoblogaeth o fwy na 2,000 o bobl.

Rydym hefyd yn cynnwys llifau i ac o Ardaloedd Awdurdodau Lleol Lloegr (LAD) ar hyd ffin Cymru (yr ydym yn eu galw'n awdurdodau ffiniau Lloegr) ac, yn mynd ymhellach i ffwrdd, i Ranbarthau Lloegr. Os bydd LAD yn digwydd o fewn Rhanbarth (e.e. Caerloyw yn y De-orllewin), rydym yn addasu llifau'r Rhanbarth yn unol â hynny.

Nid yw llifau sydd â llai nag 20 o fudwyr yn cael eu dangos, er mwyn gwneud y map yn fwy eglur a chadw pobl yn anhysbys.

Ar gyfer y graff radial o bobl a symudodd i'r lle a ddewiswyd, fe wnaethom dynnu'r bobl a oedd yn byw ac yn symud o fewn y lle a ddewiswyd cyn cyfrifo'r canrannau i symleiddio'r arddangosfa a sicrhau cysondeb â'r graff radial arall yn y pâr sy'n cyflwyno'r wybodaeth hon.

Llif Dyddiol (Teithiau)

Mae'r data hwn yn dangos y llif dyddiol wedi'i fodelu o bobl rhwng lleoedd ar wahanol adegau o'r wythnos (Yn ystod yr wythnos vs Penwythnos) a gwahanol adegau o'r dydd (Morning, Canol Dydd, Nos, Nos) a gwahanol fathau o drafnidiaeth (Pawb, Motorised (e. e. trafnidiaeth ar y ffyrdd fel ceir a bysiau), Rheilffyrdd, Beicio/Arall (gan gynnwys cerdded)). Gelwir y llifau hyn yn 'Dripiau' a diffinnir gwahanol adegau'r dydd fel a ganlyn:

  1. Bore - Tripiau'n dechrau rhwng 7.00am a 9.59am;
  2. Canol dydd - Tripiau'n dechrau rhwng 10.00am a 3.59pm
  3. Gyda'r Nos - Tripiau'n dechrau rhwng 4.00pm a 6.59pm;
  4. Noson - Tripiau'n dechrau rhwng 7.00pm a 6.59am.
Cafodd y dulliau trafnidiaeth eu modelu gan ddefnyddio algorithm sy'n amcangyfrif pa mor gyflym y mae person yn teithio i wahaniaethu rhwng dulliau modur / rheilffyrdd a'r modd beicio / arall. Roedd y modd rheilffordd wedi'i wahaniaethu ymhellach o'r modd modur (ffordd) yn seiliedig ar ddadansoddiad llwybro i goridorau rheilffordd ar wahân o goridorau ffyrdd a dadansoddiad clwstwr a dadansoddiad o hyd amser teithio. Pan nodir teithiau rheilffordd, mae'r daith gyfan, o'r diwedd i'r diwedd, yn cael ei dosbarthu fel rheilffyrdd, gan gynnwys teithio i'r orsaf ac oddi yno. Oherwydd y pellteroedd cymharol fach rhwng gorsafoedd mewnrhannau o Gymru, mae'n debygol nad yw pob taith rheilffordd wedi'i chodi a bod nifer o'r rhain yn dal i gael eu cynnwys yn y categori modur.

Yn Deall Lleoedd Cymru, mae mapiau llif teithiau wedi'u cyfyngu i leoedd yng Nghymru sydd â phoblogaeth o fwy na 2,000 o bobl. Rydym hefyd yn cynnwys llifau i Ardaloedd Awdurdodau Lleol yn Lloegr (LAD) ar hyd Clawdd Offa.

Nid yw llifau sydd â llai nag 20 o deithiau yn cael eu dangos, er mwyn gwneud y map yn fwy eglur a chadw pobl yn anhysbys.

Mae'r data hyn wedi'u modelu yn seiliedig ar symudiadau dyfeisiau ffôn symudol Vodaphone, a gofnodwyd rhwng 10 Mai 2015 ac 14 Mehefin 2015. Dyfeisiau Vodaphone sydd gan ryw draean o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Er mwyn ehangu'r sampl hon i boblogaeth lawn y Deyrnas Unedig, mae ffactor ehangu, wedi'i seilio ar y boblogaeth breswyl ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, wedi'i gymhwyso. Darparwyd y data hyn gan Citi Logik.

Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn cynnwys mapiau a data sy'n dangos sut mae gwahanol leoedd yng Nghymru sydd â phoblogaeth dros 2000 o bobl wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd.

Yn y car

Teithiau mewn car ar gyfer CBUAs

The travel times were calculated using Open Street Map and Open Trip Planner's routing algorithm. The routing algorithm utilises a hierarchy of roads where it favours major roads, such as motorways, over minor roads, such as unclassified roads and lanes. The travel times were measured from the centre of each CBUA which was based on conventional measures of town and city centre locations rather than the geometric or population weighted centroid of the CBUA.

Defnyddiwyd gwahanol dybiaethau a meini prawf i amcangyfrif yr amseroedd teithio gan gynnwys terfynau cyflymder cyfartalog ffyrdd a metrigau confensiynol ar gyfer amcangyfrif yr amser y mae'n ei gymryd i drafeilio cyffordd. Defnyddiwyd chwe ysbaid amser teithio a ddefnyddir yn gyffredin mewn dadansoddi hygyrchedd i gategoreiddio'r amseroedd teithio (10 munud, 20 munud, 30 munud, 45 munud, 60 munud a 90 munud).

Mae ffiniau'r parthau'n arwydd o ba mor bell y gallai person deithio a bod elfen o ansicrwydd yn dibynnu ar amser o'r dydd, diwrnod yr wythnos, amodau tywydd ac ati. Oherwydd hyn, a'r rhagdybiaethau a wnaed yn y modelu, mae'n debygol y bydd yr amseroedd teithio a adroddir yma yn amrywio ychydig o'i gymharu â gwybodaeth debyg a gafwyd o ffynonellau eraill (e.e. Google Maps) gan y bydd y ffynonellau eraill hyn yn defnyddio eu rhagdybiaethau a'u meini prawf eu hunain, a gall hefyd gynnwys eu cofnodion data perchnogol eu hunain a bwydydd data byw i galibro eu mesurau. Nid yw hyn yn golygu bod ein mesurau'n anghywir, yn hytrach y dylid eu defnyddio fel cynrychiolydd amseroedd teithio o'r lle a ddewiswyd ac y gallai'r rhain amrywio ychydig yn dibynnu ar y cyd-destun.

Teithiau mewn car ar gyfer gorsafoedd rheilffordd Defnyddiwyd y fethodoleg a ddisgrifir uchod hefyd i gyfrifo amseroedd teithio ceir o holl orsafoedd Cymru. Mae'r mapiau'n dangos teithiau uniongyrchol yn y bore am amser taith 30 munud mwyaf.

Ar y trên

Teithiau ar drên

Mae teithiau ar y trên yn dangos y gorsafoedd trên y gellir eu cyrraedd o orsaf gychwyn o fewn y cyfnod amser dethol (o 10 munud i 8 awr) gan ddefnyddio'r amserlen trên safonol. Cynhwysir pob gorsaf yng Nghymru a'r rhai sydd wedi'u lleoli yn awdurdodau ffiniau Lloegr. Yr orsaf gychwyn ddiofyn yw'r orsaf agosaf at ganol pob CBUA (a gyfrifir gan ddefnyddio'r dulliau a ddisgrifir yn yr adran “Mewn car”) ond gellir dewis gorsafoedd eraill gan ddefnyddio'r ddewislen. Gall teithiau gael eu hidlo rhwng teithiau uniongyrchol a theithiau sy'n golygu newid trenau.

The modelling has been undertaken for different times of the week (weekday (Monday to Friday), Saturday or Sunday) using train timetable data for Wales and England obtained from Rail Delivery Group and extracted in January 2022. The journey time for a particular route is based on the first train leaving the station on that route after 8am. The journey times tend to be the same for all services on a particular route regardless of the time of the day. This timetable does not account for any special changes to the service.

Mae'r canlyniadau'n cael eu delweddu gan ddefnyddio lleoliadau gorsafoedd a gafwyd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) a data rhwydwaith rheilffyrdd a gafwyd o'r Arolwg Ordnans.


Gorsafoedd agosaf


Mae'r rhyngwyneb yn tynnu sylw at y tair gorsaf agosaf i bob lle. Mae mesurau'r orsaf drenau yn seiliedig ar ystadegau'r Swyddfa a'r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd (ORR) ar amcangyfrifon o'r defnydd o orsafoedd Tabl 1410 – cofnodion teithwyr ac allanfeydd a chyfnewidfeydd gan orsafoedd o fis Mawrth 2019 i fis Chwefror 2020 (h.y. defnydd pandemig cyn COVID19). Ategwyd hyn gan ddata gan Trafnidiaeth Cymru, Traws Gwlad a GWR ar lwybrau a llinellau trên, a mynediad i'r anabl. Cafodd pob gorsaf yng Nghymru, a'r rhai a leolir yn awdurdodau ffiniau Lloegr, eu cynnwys yn y dadansoddiad. Cyfrifwyd pellteroedd teithio ac amseroedd teithio i bob gorsaf o'r lle a ddewiswyd gan ddefnyddio'r dulliau a ddisgrifir yn yr adran “Mewn car”. Mae nifer y teithwyr dyddiol yn seiliedig ar gyfanswm mynediad ac ymadael blynyddol wedi'u rhannu â 365 i roi cyfanswm dyddiol cyfartalog drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain wedi'u categoreiddio i'r bandiau canlynol:

  1. Band 1 - 0 i 50 o gofnodion ac allanfeydd;
  2. Band 2 - 51 i 100 o gofnodion ac allanfeydd;
  3. Band 3 - 101 i 500 o gofnodion ac allanfeydd;
  4. Band 4 - 501 i 1000 o gofnodion ac allanfeydd;
  5. Band 6 - 1001 i 5000 o gofnodion ac allanfeydd;
  6. Band 6 - Dros 5000 o gofnodion ac allanfeydd.


Mae'r llwybrau trên a'r llinell wedi'u categoreiddio i'r canlynol:

  1. Trafnidiaeth Cymru – Gwasanaeth rhwng Gogledd a De Cymru;
  2. Trafnidiaeth Cymru - Llinell Arfordir Gogledd Cymru;
  3. Trafnidiaeth Cymru - Llandudno i Manceinion;
  4. Trafnidiaeth Cymru - Llinell Dyffryn Conwy;
  5. Trafnidiaeth Cymru – Llinell y Gororau;
  6. Trafnidiaeth Cymru - Lerpwl i Wrecsam;
  7. Trafnidiaeth Cymru - Caer i Crewe;
  8. Trafnidiaeth Cymru - Llinell Cambrian;
  9. Trafnidiaeth Cymru - Llinell y Mers;
  10. Trafnidiaeth Cymru - Crewe i Amwythig;
  11. Trafnidiaeth Cymru - Llinell Calon Cymru;
  12. Trafnidiaeth Cymru - Llinell Gorllewin Cymru;
  13. Trafnidiaeth Cymru – Swanline;
  14. Trafnidiaeth Cymru - Maesteg i Cheltenham Spa;
  15. Trafnidiaeth Cymru – Lllnellau’r Cymoedd - Rhondda;
  16. Trafnidiaeth Cymru - Lllnellau’r Cymoedd - Merthyr;
  17. Trafnidiaeth Cymru - Lllnellau’r Cymoedd - Coryton;
  18. Trafnidiaeth Cymru - Lllnellau’r Cymoedd - Rhymni;
  19. Trafnidiaeth Cymru - Lllnellau’r Cymoedd - Glynebwy;
  20. Trafnidiaeth Cymru - Lllnellau’r Cymoedd - Tref Bute;
  21. Trafnidiaeth Cymru - Lllnellau’r Cymoedd - Bro Morgannwg;
  22. Trafnidiaeth Cymru - Lllnellau’r Cymoedd - Dinas;
  23. Rheilffordd y Great Western - Caerdydd i Portsmouth;
  24. Rheilffordd y Great Western - Abertawe i Llundain;
  25. Rheilffordd y Great Western - Llinell Arall;
  26. Cross-Country - Caerdydd i Birmingham;
  27. Avanti West Coast - Caergybi I Llundain;
  28. Avanti West Coast - Amwythig i Llundain;
  29. West Midlands Railway - Amwythig i Birmingham;


Hygyrchedd yr orsaf

Information about station facilities and accessibility is indicative only. Those wishing to utilise these facilities should check with the station’s operator or website prior to travelling.

Datblygwyd y categoreiddio hygyrchedd gorsafoedd gan Trafnidiaeth Cymru, ac mae fel a ganlyn:

Categori A

Mae gan yr orsaf fynediad di-gam i a rhwng pob platfform, bob amser mae trenau'n rhedeg, drwy fynediad lefel, lifftiau neu rampiau (yn unol â safonau adeiladu newydd ail-raddiant/hyd). Caniateir mynedfeydd gorsafoedd ychwanegol neu lwybrau cerdded nad ydynt yn bodloni'r meini prawf A, ar yr amod nad yw'r pellter cerdded ychwanegol i osgoi'r rhain yn fwy na 100m.

Categori B

Nid yw'r orsaf yn bodloni categori A, ond mae ganddo fynediad di-gam i bob platfform neu o leiaf un platfform. Mewn rhai achosion, efallai y bydd modd defnyddio'r orsaf ar gyfer rhai pobl anabl a phobl hŷn, ond mewn eraill gall rhwystrau mawr fodoli sy'n debygol o gyfyngu ar allu rhai pobl anabl neu bobl hŷn i ddefnyddio'r orsaf. Gall hyn gynnwys rampiau hir neu serth, mynediad rhwng llwyfannau a all fod ar y stryd, ac efallai na fydd mynediad di-gam i bob ardal neu rhwng pob gorsaf.

Categori B1

Gall mynediad di-gam i bob platfform - gynnwys rampiau hir neu serth. Gall mynediad rhwng llwyfannau fod drwy'r stryd. Nid yw'r orsaf hon yn bodloni'r meini prawf A, ond mae ganddi fynediad di-gam (i bob platfform) sy'n debygol o gael ei ddefnyddio gan lawer o bobl sydd â llai o symudedd. Gall mynediad fod drwy rampiau, 1:10 (unrhyw hyd). Gall rampiau diwedd llwyfan byr fod hyd at 1:7.

Gall mynediad rhwng llwyfannau fod drwy'r stryd, dim mwy na 400m. Caniateir mynediad drwy groesfannau gwastad (os yw'n rhwystr llawn). Gall llwybrau mynediad fod drwy feysydd parcio, neu ffyrdd mynediad byr heb balmentydd, ond fel arall rhaid i lwybrau ar hyd y stryd gynnwys palmant. Caniateir mynedfeydd/llwybrau cerdded ychwanegol nad ydynt yn bodloni meini prawf A1 neu A2, ar yr amod nad yw'r pellter cerdded ychwanegol i osgoi'r rhain yn fwy na 400m.

Categori B2

Rhywfaint o fynediad di-gam i bob platfform- gwiriwch y manylion. Mae gan yr orsaf hon fynediad di-gam i bob platfform, ond mae rhwystrau mawr yn bodoli sy'n debygol o gyfyngu ar allu rhai pobl i ddefnyddio'r orsaf. Nid yw llwybrau di-gam yn bodloni meini prawf A neu B1 (e.e. rampiau hir yn fwy serth nag 1:10, neu mae'r llwybr di-gam rhwng llwyfannau yn fwy na 400m). Mae unrhyw orsaf sydd â chroesiad lefel heb ei gwahardd neu hanner rhwystr rhwng llwyfannau yn B2 neu'n is.

Mae unrhyw orsaf lle mae mynediad di-gam ar gael ar adegau penodol yn unig, neu i deithwyr penodol yn unig, yn B2 neu'n is (e.e. oherwydd nad yw lifftiau ar gael pan nad oes staff yn yr orsaf) er enghraifft, os yw'r amseroedd agor mynediad di-gam yn dibynnu ar bresenoldeb staff yn yr orsaf.

Categori B3

Gall rhywfaint o fynediad di-gam fod mewn un cyfeiriad yn unig - gwiriwch y manylion. Mae gan yr orsaf hon fynediad di-gam i lai na chyfanswm nifer y platfformau.

Ar y bws

Teithiau ar y bws ar gyfer CBUAs

Mae'r adran hon yn dangos y lleoliadau y gellir eu cyrraedd o ganol pob CBUA gan ddefnyddio'r amserlen bws. Gellir gosod cychwyn taith i wahanol adegau o'r wythnos (yn ystod yr wythnos (o ddydd Llun i ddydd Gwener), dydd Sadwrn, neu Sul) ac amseroedd gwahanol o'r dydd (Bore, Canol y dydd, Nos a Nos). Diffinir amseroedd gwahanol y dydd fel a ganlyn:

  1. Bore - Tripiau'n dechrau rhwng 7.00am a 9.59am;
  2. Canol dydd - Tripiau'n dechrau rhwng 10.00am a 3.59pm
  3. Gyda'r Nos - Tripiau'n dechrau rhwng 4.00pm a 6.59pm;
  4. Noson - Tripiau'n dechrau rhwng 7.00pm a 6.59am.
Cyfrifwyd teithiau ar gyfer amseroedd gadael ar gyfnodau o 15 munud trwy gydol pob un o'r pedwar cyfnod hyn o'r dydd. Mae'r isochrones ar y map yn nodi maint yr ardal y gellid ei chyrraedd o fewn amser taith uchaf o 10, 20, 30, 45, 60 a 90 munud o bob amser cychwyn. Mae teithiau bws uniongyrchol a theithiau bws sydd angen newid wedi'u modelu ar wahân.

Mae teithiau ar y bws yn dechrau ar droed yng nghanol y CBUA. Mae canol pob CBUA wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio'r dulliau a ddisgrifir yn yr adran “Mewn car”. Mae'r model yn galluogi'r person sy'n gwneud y daith i gerdded i'r holl arosfannau bysiau o fewn 1600m (pellter rhwydwaith) o'r man cychwyn. Mae hyn yn cyfateb i daith gerdded 20 munud ar gyflymder o 3mya. Unwaith y bydd y person yn cyrraedd safle bws, gallant naill ai barhau i gerdded i'r arhosfan nesaf neu aros am fws. Os bydd bws yn cyrraedd cyn i'r amser teithio mwyaf fynd heibio (h.y. y 10 i 90 munud) bydd y teithiwr yn parhau â'u taith, neu bydd eu taith yn dod i ben.

Unwaith y bydd person yn gadael bws, efallai y byddan nhw'n cerdded i ffwrdd o'r safle bws am naill ai weddill ei amser teithio uchaf (h.y. y 10 i 90 munud), neu am 20 munud (1600m), pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Os yw'r model yn caniatáu newid bysiau, a bod y person yn cyrraedd safle bws arall o fewn yr amser hwnnw, byddant yn cael y cyfle i newid bysiau a pharhau â'u taith, neu fel arall bydd eu taith yn dod i ben.

Mae'r holl gyfnewidiadau posibl taith person wedi'u modelu. Er enghraifft, mae'r model yn caniatáu i'r person gerdded heibio safle bws, i aros mewn safle bws ar gyfer y bws nesaf, i aros am fws dilynol, neu, unwaith yn teithio ar fws, i olau a cherdded ar bob arhosfan ar y llwybr. Mae hyn yn sicrhau bod yr isochrynau olaf yn dangos maint llawn yr ardal y gellid ei chyrraedd ar fws o fewn yr amser teithio mwyaf ar gyfer pob cyfnod o'r dydd.

Mae'r lliwiau ar y map yn nodi lefel y gwasanaeth bws y mae pob ardal yn ei dderbyn. Mae lliwiau tywyllach yn dangos lefelau uwch o wasanaeth, sy'n dangos y gall cyfran uwch o ymadawiadau o ganol y CBUA gyrraedd yr ardal honno. Er enghraifft, mae 12 amser gadael yn y cyfnod 'bore', gan adael am gyfnodau o 15 munud rhwng 7:00am a 9:45am. Os gall chwech o'r amseroedd gadael hynny gyrraedd ardal, 50% yw amlder y sylw i'r ardal honno. Mae'r bandiau lliw wedi eu safoni, gan alluogi cymharu ledled Cymru.

The modelling is undertaken using OpenTripPlanner software. The data used include OpenStreetMap’s road network data, bus timetable data obtained from Traveline and bus stop data obtained from National Public Transport Access Nodes (NaPTAN). All data are from August 2021. The modelling is based on travel times from the bus timetable and does not account for conditions that may be present on particular days, such as traffic congestion, road works and weather conditions. This analysis is limited to Wales only.

Teithiau ar fws i orsafoedd rheilffordd

Hefyd, defnyddiwyd y fethodoleg a ddisgrifir uchod i gyfrifo amseroedd teithio bysiau o holl orsafoedd Cymru Mae'r mapiau yn dangos teithiau uniongyrchol yn y bore am amser taith 30 munud mwyaf.

Trwy seiclo

Teithiau trwy seiclo ar gyfer CBUAs

Mae'r adran hon yn dangos y lleoliadau y gellir eu cyrraedd o ganol pob CBUA trwy feicio. Mae'r isochrones ar y map yn dangos maint yr ardal y gellid ei chyrraedd o fewn amser taith uchaf o 10, 20, 30, 45, 60 a 90 munud. Mae'n seiliedig ar gyflymder beicio cyfartalog o 11.5 mya ac mae'n cynnwys beicio ar hyd ffyrdd a llwybrau beicio a llwybrau beicio dynodedig eraill.

Mae'r model wedi'i sefydlu i ffafrio llwybrau ar hyd ffyrdd tawelach ac i osgoi tir a allai wneud beicio yn anodd (e.e. graddiannau serth neu arwynebau anaddas). Nid yw'n cynnwys amser a gymerir ar gyfer seibiannau, tagfeydd traffig nac amodau tywydd. Gan nad yw'r modelau'n cyfrif am y paramedrau hyn, mae'r graddau isochrone yr un fath waeth beth fo amser y dydd neu'r diwrnod o'r wythnos mae person yn gadael canol y CBUA.

Cynhelir y modelu gan ddefnyddio meddalwedd OpenTripPlanner. Mae'r data a ddefnyddir yn cynnwys data rhwydwaith ffyrdd a llwybrau OpenStreetMap a gafwyd ym mis Awst 2021. Mae'r dadansoddiad hwn wedi'i gyfyngu i Gymru yn unig.

Teithiau trwy seiclo ar gyfer gorsafoedd rheilffordd

Defnyddiwyd y fethodoleg a ddisgrifir uchod hefyd i gyfrifo amseroedd teithio beicio o holl orsafoedd Cymru Mae'r mapiau yn dangos teithiau uniongyrchol yn y bore am amser taith 30 munud mwyaf.

Ar gerdded

Teithiau trwy gerdded ar gyfer CBUAs

Mae'r adran hon yn dangos y lleoliadau y gellir eu cyrraedd o ganol pob CBUA trwy gerdded. Mae'r isochrones ar y map yn dangos maint yr ardal y gellid ei chyrraedd o fewn amser taith uchaf o 10, 20, 30, 45, 60 a 90 munud. Mae'n seiliedig ar gyflymder cerdded cyfartalog o 3 mya ac mae'n cynnwys llwybrau troed ar hyd ffyrdd a llwybrau troed dynodedig eraill.

Mae'r model wedi'i sefydlu i ffafrio llwybrau ar lwybrau troed ar hyd ffyrdd tawelach ac i osgoi tir a allai wneud cerdded yn anodd (e.e. graddiannau serth neu arwynebau anaddas). Nid yw'n cynnwys amser ar gyfer seibiannau nac amodau tywydd. Gan nad yw'r modelau'n cyfrif am y paramedrau hyn, mae'r graddau isochrone yr un fath waeth beth fo amser y dydd neu'r diwrnod o'r wythnos mae person yn gadael canol y CBUA.

Cynhelir y modelu gan ddefnyddio meddalwedd OpenTripPlanner. Mae'r data a ddefnyddir yn cynnwys data rhwydwaith ffyrdd a llwybrau OpenStreetMap a gafwyd ym mis Awst 2021. Mae'r dadansoddiad hwn wedi'i gyfyngu i Gymru yn unig.

Teithiau trwy gerdded am orsafoedd rheilffordd

Hefyd, defnyddiwyd y fethodoleg a ddisgrifir uchod i gyfrifo amseroedd teithio cerdded o holl orsafoedd Cymru Mae'r mapiau yn dangos teithiau uniongyrchol yn y bore am amser taith 30 munud uchaf.

  1. Office for National Statistics (2013) 2011 Built-up Areas – Methodology and Guidance v1
  2. Welsh Government (2015) Best fit of Lower Super Output Areas to Built Up Areas (2011)
  3. Shepherd, J. (2009) A typology of the smaller rural towns of England, Birkbeck College, university of London.
  4. Understanding Scottish Places.
  5. Lupton, R., Fenton, A., Tunstall, R. and Harris, R. (2011) Place typologies and their policy applications, DCLG Case Report 65.
  6. CLES (2011) Productive Local Economies: Creating resilient places and CLES (2014) Developing resilient town centres.

Newidynnau Dosbarthiad Demograffig ac Economaidd-gymdeithasol – disgrifiad manwl a ffynonellau data

Dosbarthiad oedran

Age Group Disgrifiad Ffynhonnell
0 i 4 oed Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 0-4 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)
5 i 9 oed Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 5-9 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)
10 i 15 oed Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 10-15 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)
16 i 24 oed Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-24 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)
25 i 44 oed Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 25-44 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)
45 i 64 oed Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 45-64 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)
65 i 74 oed Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 65-74 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)
75 oed a hŷn Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr dros 75 oed (MYE 2017) Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch (2017)


Cyfansoddiad y Cartref

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Sengl Canran y cartrefi person sengl Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Priod heb blant Canran y cartrefi priod heb blant Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Priod gyda phlant Canran y cartrefi priod â phlant (gan gynnwys plant dibynnol a phlant nad ydynt yn ddibynnol) Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Cyd-fyw heb blant Canran y cartrefi sy’n cyd-fyw heb blant Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Cyd-fyw gyda phlant Canran y cartrefi sy’n cyd-fyw â phlant (gan gynnwys plant dibynnol a phlant nad ydynt yn ddibynnol) Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Unig riant heb blant dibynnol Canran y cartrefi unig riant heb blant dibynnol Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Unig riant gyda phlant dibynnol Canran y cartrefi unig riant gyda phlant dibynnol Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Cartrefi myfyrwyr Canran y cartrefi myfyrwyr (nifer o bobl yn eu meddiannu) Cyfrifiad 2011 (KS105EW)
Cartrefi gyda nifer yn eu meddiannu Canran y cartrefi eraill gyda nifer yn eu meddiannu, heb gynnwys myfyrwyr. Cyfrifiad 2011 (KS105EW)


Gweithgarwch economaidd

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Myfyrwyr Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n fyfyrwyr (economaidd weithgar ac anweithgar) Cyfrifiad 2011 (KS601EW)
Wedi ymddeol Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n bobl wedi ymddeol (economaidd anweithgar) Cyfrifiad 2011 (KS601EW)
Gofalu am y cartref/teulu Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n gofalu am y cartref neu’r teulu (economaidd anweithgar) Cyfrifiad 2011 (KS601EW)
Economaidd anweithgar Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n economaidd anweithgar (gan gynnwys pobl wedi ymddeol, myfyrwyr a phobl sy’n gofalu am y cartref) Cyfrifiad 2011 (KS601EW)
Cyflogeion Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n gyflogeion (rhan-amser ac amser llawn) (economaidd weithgar) Cyfrifiad 2011 (KS601EW)
Hunangyflogedig Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n hunangyflogedig (economaidd weithgar) Cyfrifiad 2011 (KS601EW)
Di-waith Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n ddi-waith (economaidd weithgar) Cyfrifiad 2011 (KS601EW)


Diwydiant cyflogi

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd amaeth, coedwigaeth a physgota Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Mwyngloddio a chwarela Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd mwyngloddio a chwarela. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweithgynhyrchu Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweithgynhyrchu. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Adeiladu Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd adeiladu. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Masnach cyfanwerthu a manwerthu; trwsio cerbydau a beiciau modur Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd masnach cyfanwerthu a manwerthu; trwsio cerbydau a beiciau modur Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Cludiant a storio Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd cludiant a storio Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gwybodaeth a chyfathrebu Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gwybodaeth a chyfathrebu. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweithgareddau ariannol ac yswiriant Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweithgareddau ariannol ac yswiriant. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweithgareddau eiddo tirol Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweithgareddau eiddo tirol. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweithgareddau gwasanaethau gweinyddol a chymorth Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweithgareddau gwasanaethau gweinyddol a chymorth. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Addysg Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd addysg. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)
Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr rhwng 16-74 oed sy’n cael eu cyflogi ym myd gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol. Cyfrifiad 2011 (KS605EW)


Cymwysterau

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Dim Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16+ oed heb gymwysterau academaidd neu broffesiynol. Cyfrifiad 2011 (QS501EW)
Lefel 1 Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16+ oed sydd â chymwysterau hyd at lefel 1 (1-4 Lefel O/CSE/TGAU (unrhyw raddau), Lefel Mynediad, Diploma Sylfaen, NVQ lefel 1, GNVQ Sylfaen, Sgiliau Sylfaenol/Hanfodol (Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon) Cyfrifiad 2011 (QS501EW)
Lefel 2 Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16+ oed sydd â chymwysterau hyd at lefel 2 (5+ Lefel O (Pasio) /CSE (Gradd 1) /TGAU (Graddau A*-C), Tystysgrif Ysgol, 1 Safon Uwch/2-3 Lefel AS/TAA, Diploma Canolradd/Uwch, Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru, NVQ lefel 2, GNVQ Canolradd, Crefft City & Guilds, BTEC Cyntaf/Diploma Gyffredinol, Diploma RSA (Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon) Cyfrifiad 2011 (QS501EW)
Lefel 3 Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16+ oed sydd â chymwysterau hyd at lefel 3 (2+Safon Uwch/TAA, 4+ Lefel AS, Tystysgrif Ysgol Uwch, Diploma Gynnydd/Uwch, Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru, NVQ lefel 3, GNVQ Uwch, Crefft Uwch City & Guilds, ONC, OND, BTEC Cenedlaethol, Diploma Uwch RSA (Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon)). Cyfrifiad 2011 (QS501EW)
Lefel 4+ Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16+ oed sydd â chymwysterau hyd at lefel 4 ac uwch (Gradd (er enghraifft, BA, BSc), Gradd Uwch (er enghraifft MA, PhD, TAR), NVQ Lefel 4/5, HNC, HND, Diploma Uwch RSA, BTEC Lefel Uwch, Gradd Sylfaen (Gogledd Iwerddon), cymwysterau proffesiynol (er enghraifft, addysgu, nyrsio, cyfrifeg) (Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon)). Cyfrifiad 2011 (QS501EW)


Deiliadaeth

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Perchennog tŷ Canran yr aelwydydd sy’n berchen ar eu cartrefi (gan gynnwys perchnogaeth lwyr, perchnogaeth drwy forgais a rhanberchnogaeth). Cyfrifiad 2011 (KS402EW)
Wedi’u rhentu (cymdeithasol) Canran yr aelwydydd sydd yn y sector tai cymdeithasol a gaiff eu rhentu Cyfrifiad 2011 (KS402EW)
Wedi’u rhentu (preifat) Canran yr aelwydydd sydd yn y sector rhentu preifat Cyfrifiad 2011 (KS402EW)


Amodau Cymdeithasol

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Graddfa gymdeithasol: lefel 1 Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16 i 64 oed sy’n cael y raddfa gymdeithasol AB wedi’i haseinio iddynt yn fras (rhoddir y raddfa hon i bob unigolyn mewn cartref lle mae’r sawl y cyfeirir ato mewn cartref yn cael ei gyflogi mewn swyddi rheoli/gweinyddol/proffesiynol uwch a chanolradd). Cyfrifiad 2011 (QS611EW)
Graddfa gymdeithasol: lefel 2 Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16 i 64 oed sy’n cael y raddfa gymdeithasol C1 wedi’i haseinio iddynt yn fras (rhoddir y raddfa hon i bob unigolyn mewn cartref lle mae’r sawl y cyfeirir ato mewn cartref yn cael ei gyflogi mewn swyddi goruchwyliol/clerigol a rheoli/gweinyddol/proffesiynol iau). Cyfrifiad 2011 (QS611EW)
Graddfa gymdeithasol: lefel 3 Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16 i 64 oed sy’n cael y raddfa gymdeithasol C2 wedi’i haseinio iddynt yn fras (rhoddir y raddfa hon i bob unigolyn mewn cartref lle mae’r sawl y cyfeirir ato mewn cartref yn cael ei gyflogi mewn swyddi gwaith llaw crefftus.) Cyfrifiad 2011 (QS611EW)
Graddfa gymdeithasol: lefel 4 Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 16 i 64 oed sy’n cael y raddfa gymdeithasol DE wedi’i haseinio iddynt yn fras (rhoddir y raddfa hon i bob unigolyn mewn cartref lle mae’r sawl y cyfeirir ato mewn cartref yn cael ei gyflogi mewn swyddi gwaith llaw lled-grefftus a swyddi heb sgiliau; yn ddi-waith ac mewn swyddi â’r graddfeydd isaf.) Cyfrifiad 2011 (QS611EW)
Llety gorlawn Canran yr holl boblogaeth arferol o breswylwyr mewn cartrefi sy’n byw mewn llety gorlawn (mwy nag 1 unigolyn fesul ystafell). Cyfrifiad 2011 (QS410EW)
Hawlio budd-daliadau gwaith Canran y boblogaeth o oed gweithio sy’n hawlio budd-daliadau sy’n ymwneud â gwaith (Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Caiff y rhai hynny sy’n hawlio nifer o fudd-daliadau eu cyfri unwaith yn unig). Parth Cyflogaeth MALIC (Llywodraeth Cymru, 2017)
Iechyd gwael Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n nodi eu hunain fod eu hiechyd naill ai’n wael neu’n wael iawn. Cyfrifiad 2011 (QS302EW)
Anhwylder hirdymor sy’n cyfyngu Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr y cyfyngir eu gweithgareddau bob dydd gan broblem iechyd neu anabledd hirdymor. Cyfrifiad 2011 (QS303EW)


Dangosyddion gwledigrwydd

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Mynediad at gar: dim ceir na faniau Canran y cartrefi heb gar na fan. Cyfrifiad 2011 (KS404EW)
Mynediad at gar: 1 car neu fan Canran y cartrefi gydag 1 car neu fan. Cyfrifiad 2011 (KS404EW)
Mynediad at gar: 2 neu ragor o geir neu faniau Canran y cartrefi gyda 2 neu ragor o geir neu faniau. Cyfrifiad 2011 (KS404EW)
Ardaloedd cynnyrch trefol Canran yr ardaloedd cynnyrch yn yr ardaloedd adeiledig cyffiniol a gaiff eu nodi fel rhai Trefol (C1 neu C2). Dosbarthiad Trefol Gwledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2011)
Ardaloedd cynnyrch gwledig Canran yr ardaloedd cynnyrch yn yr ardaloedd adeiledig cyffiniol a gaiff eu nodi fel rhai Gwledig (D1, D2, E1, E2, F1 neu F2). Dosbarthiad Trefol Gwledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2011)


Hunaniaeth genedlaethol

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Hunaniaeth genedlaethol: Cymreig Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n ystyried eu hunain yn Gymreig Cyfrifiad 2011 (KS202EW)
Hunaniaeth genedlaethol: Prydeinig Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n ystyried eu hunain yn Brydeinig Cyfrifiad 2011 (KS202EW)
Wedi’u geni yng Nghymru Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr a aned yng Nghymru. Cyfrifiad 2011 (KS204EW)
Siarad Cymraeg Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr 3+ oed sy’n siarad Cymraeg Cyfrifiad 2011 (KS207WA)


Grŵp ethnig

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Grŵp ethnig: Gwyn Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n credu mai eu grŵp ethnig a chefndir diwylliannol yw Gwyn Cyfrifiad 2011 (KS201EW)
Grŵp ethnig: Grwpiau Ethnig Cymysg/Amlethnig Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n credu mai eu grŵp ethnig a chefndir diwylliannol yw Cymysg neu eu bod yn perthyn i grwpiau amlethnig Cyfrifiad 2011 (KS201EW)
Grŵp ethnig: Asiaidd ac Asiaidd Prydeinig Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n credu mai eu grŵp ethnig a chefndir diwylliannol yw Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Cyfrifiad 2011 (KS201EW)
Grŵp ethnig: Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Brydeinig Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n credu mai eu grŵp ethnig a chefndir diwylliannol yw Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig Cyfrifiad 2011 (KS201EW)
Grŵp ethnig: Grŵp ethnig arall Canran y boblogaeth arferol o breswylwyr sy’n credu bod eu grŵp ethnig a chefndir diwylliannol yn perthyn i grwpiau ethnig eraill Cyfrifiad 2011 (KS201EW)


Llif Poblogaeth

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Llif Cymudwyr Pob preswylydd arferol 16 oed neu hŷn sydd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad.Lleoliad preswylio a man gwaith arferol (lefel ardal gynnyrch). Cyfrifiad 2011 (WF01BEW)
Llif Mudo Tarddiad a chyrchfan yr holl breswylwyr sydd wedi symud o fewn blwyddyn i Gyfrifiad 2011. Cyfrifiad 2011 (MF01UK)
Llif Dyddiol (teithiau) Mae'r data hyn wedi'u modelu yn seiliedig ar symudiadau dyfeisiau ffonau symudol Vodaphone, a gofnodwyd rhwng 10 Mai 2015 a 14 Mehefin 2015. Mae rhaniad moddol wedi'i seilio ar ddadansoddi'r data. CitiLogik


Cysylltedd

Enwch ef Disgrifiad Ffynhonnell
Pellter Teithio Pellter rhwydwaith ffyrdd o ganol CBUA (5km, 10km, 20km, 30km). OS Highways, Ordnance Survey, Mawrth 2021.
Amser Teithio Amser teithio o ganol y CBUA (10 munud, 20 munud, 30 munud). OS Highways, Ordnance Survey, Mawrth 2021.
Amserlen Trên Data amserlenni trenau ar gyfer dyddiau'r wythnos, dydd Sadwrn a dydd Sul ar gyferCymru ac awdurdodau gororau Lloegr. Rail Delivery Group, Ionawr 2022.
Rhwydwaith Rheilffordd Y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. OS Meridian 2017, Ordnance Survey © Crown hawlfraint a hawliau cronfa ddata 2020
Lleoliadau Gorsafoedd Rheilffordd Lleoliadau gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru ac awdurdodau gororau Lloegr Tabl 1410 y Swyddfa a'r Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) – cofnodion teithwyr ac allanfeydd a chyfnewidfeydd gan orsafoedd o fis Mawrth 2019 i fis Chwefror 2020.
Teithwyr Nifer dyddiol cyfartalog y cofnodion a'r cyfansymiau allanfeydd gorsafoedd teithwyr (cyfansymiau blynyddol wedi'u rhannu â 365). Tabl 1410 y Swyddfa a'r Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) – cofnodion teithwyr ac allanfeydd a chyfnewidfeydd gan orsafoedd o fis Mawrth 2019 i fis Chwefror 2020.
Llwybrau a Llinellau Trên Nifer y gwahanol lwybrau a llinellau trên a wasanaethir gan bob gorsaf. Map Rhwydwaith Rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021; GWR Network Map, Great Western Railway, Rhagfyr 2021; CrossCountry Route Map, CrossCountry Trains, Rhagfyr 2021; Avanti West Coast Route Map, Avanti West Coast, Rhagfyr 2021; Our Route and Network Maps, West Midlands Railway, Rhagfyr 2021.
Cysylltiad Trafnidiaeth Uniongyrchol A oes gan yr orsaf gysylltiad uniongyrchol â chanolfannau trafnidiaeth mawr eraill, megis meysydd awyr neu fferïau. Map Rhwydwaith Rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021
Math o Gysylltiad Y math o gysylltiad uniongyrchol sydd gan orsaf. Naill ai i faes awyr, fferi neu'r ddau. Map Rhwydwaith Rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021
Cais i Stopio A yw'r orsaf yn stop cais. Tabl 1410 y Swyddfa a'r Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) – cofnodion teithwyr ac allanfeydd a chyfnewidfeydd gan orsafoedd o fis Mawrth 2019 i fis Chwefror 2020.
Seddi A yw'r orsaf yn stop cais. Hygyrchedd Gorsafoedd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021.
Toiledau A oes toiledau ar yr orsaf. Hygyrchedd Gorsafoedd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021.
Maes parcio A oes gan yr orsaf faes parcio. Hygyrchedd Gorsafoedd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021.
Parcio i'r Anabl A oes gan yr orsaf fannau dynodedig ar gyfer parcio i'r anabl. Hygyrchedd Gorsafoedd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021.
Hygyrchedd yr Orsaf Categoreiddio hygyrchedd yr orsaf, gan ddefnyddio Trafnidiaeth Cymru categorïau (A i B3) Hygyrchedd Gorsafoedd, Trafnidiaeth Cymru, Rhagfyr 2021.
Amserlen Bws Data bysiau ar gyfer Cymru ar gyfer dyddiau'r wythnos, dydd Sadwrn a dydd Sul. Traveline National Dataset (TNDS), Traveline, Awst 2021
Arosfannau Bws Lleoliadau arosfannau bysiau yng Nghymru. National Public Transport access Nodes (NaPTAN), Awst 2021
Amser Teithio ar y Bws Amser teithio o ganol y CBUA neu orsaf drenau (10 munud, 20 munud, 30 munud, 45 munud, 60 munud, 90 munud). Open Street Map Awst 2021

Categori 1
Tref neu gymdogaeth fach yng nghategori 1 yw hon. Mae tuedd i’r trefi neu’r cymdogaethau hyn gynnwys cyfran uwch o aelwydydd priod a llai o aelwydydd meddiannaeth sengl na Chymru yn gyffredinol. Mae tuedd iddynt gynnwys cyfran rywfaint yn uwch o berchnogaeth ar dai a lefelau is o gartrefi cymdeithasol ar rent. Mae tuedd bod mwy o bobl yn gweithio ac mewn cyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru, ac mae tuedd bod gan bobl fwy o gymwysterau, gyda chyfran uwch o raddedigion a llai o bobl heb gymwysterau. Mae mwy o bobl mewn swyddi proffesiynol a rheoli nag mewn mannau eraill yng Nghymru ac mae mwy o bobl yn berchen ar fwy nag un car. Ar gyfartaledd, ganed ychydig mwy o bobl yn y mannau hyn yng Nghymru, ac mae mwy o bobl yn nodi mai hunaniaeth Gymreig sydd ganddynt. Mae tuedd hefyd i gyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg fod yn uwch.

Tref ganolig yng nghategori 1 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o aelwydydd priod a llai o aelwydydd meddiannaeth sengl na Chymru yn gyffredinol. Mae tuedd iddynt gynnwys cyfran rywfaint yn uwch o gartrefi cymdeithasol ar rent. Mae tuedd bod mwy o bobl yn gweithio ac mewn cyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru. Mae mwy o bobl mewn galwedigaethau lled-fedrus nag mewn mannau eraill yng Nghymru, a chyfran uwch o bobl yn gweithio ym meysydd gweithgynhyrchu, manwerthu a chyfanwerthu. Ar gyfartaledd, ganed ychydig llai o bobl yn y mannau hyn yng Nghymru, ac mae llai o bobl yn nodi mai hunaniaeth Gymreig sydd ganddynt. Mae tuedd hefyd i gyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg fod ychydig yn is.

Tref fawr yng nghategori 1 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl ifanc oedran gwaith (25-44 oed), a phobl sengl sy’n byw mewn aelwydydd amlbreswyl a chartrefi preifat ar rent na Chymru yn gyffredinol. Mae tuedd bod mwy o bobl yn gweithio ac mewn cyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru, ac mae tuedd bod gan bobl fwy o gymwysterau, gyda chyfran uwch o raddedigion a llai o bobl heb gymwysterau. Mae mwy o bobl mewn swyddi proffesiynol a rheoli nag mewn mannau eraill yng Nghymru ac mae mwy o bobl yn berchen ar fwy nag un car. Ar gyfartaledd, ganed ychydig mwy o bobl yn y mannau hyn yng Nghymru ac maent yn nodi mai hunaniaeth Gymreig sydd ganddynt, er bod cyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg yn tueddu i fod rywfaint yn is

Categori 2
Tref neu gymdogaeth fach yng nghategori 2 yw hon. Mae tuedd i’r trefi neu’r cymdogaethau hyn gynnwys cyfran uwch o aelwydydd un rhiant nag yng Nghymru’n gyffredinol. Mae tuedd iddynt gynnwys cyfran rywfaint yn is o berchnogaeth ar dai a lefelau uwch o gartrefi cymdeithasol ar rent. Mae tuedd bod llai o bobl yn gweithio ac mewn cyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru, ac mae cyfran uwch o bobl heb lawer o gymwysterau. Mae mwy o bobl yn tueddu i gael eu cyflogi mewn galwedigaethau lled-fedrus neu ddi-fedr, ac mae cyfran uwch o bobl yn gweithio yn y sectorau gweithgynhyrchu nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae perchnogaeth ar geir yn is nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Ar gyfartaledd, ganed mwy o bobl yn y mannau hyn yng Nghymru ac maent yn tueddu i nodi mai hunaniaeth Gymreig sydd ganddynt, er bod cyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg hefyd yn tueddu i fod yn isel.

Tref ganolig yng nghategori 2 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran rywfaint yn uwch o berchnogaeth ar dai a lefelau is o gartrefi cymdeithasol ar rent. Mae tuedd bod llai o bobl yn gweithio ac mewn cyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru. Mae mwy o bobl yn tueddu i gael eu cyflogi mewn galwedigaethau lled-fedrus neu ddi-fedr, ac mae cyfran uwch o bobl yn gweithio yn y sectorau gweithgynhyrchu nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae perchnogaeth ar geir yn is nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Ar gyfartaledd, ganed mwy o bobl yn y mannau hyn yng Nghymru ac maent yn tueddu i nodi mai hunaniaeth Gymreig sydd ganddynt, er bod cyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg hefyd yn tueddu i fod yn isel.

Tref fawr yng nghategori 2 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys lefelau rywfaint yn is o rentu cymdeithasol na chyfartaledd Cymru. Mae cyfran is o bobl sydd â llawer o gymwysterau, a mwy o bobl heb gymwysterau o gwbl. Mae llai o bobl yn tueddu i gael eu cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol a rheoli, ac mae cyfran uwch yn gyflogedig ym maes gweithgynhyrchu. Ar gyfartaledd, ganed mwy o bobl yn y mannau hyn yng Nghymru ac maent yn tueddu i nodi mai hunaniaeth Gymreig sydd ganddynt, er bod cyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg hefyd yn tueddu i fod yn isel

Categori 3
Tref neu gymdogaeth fach yng nghategori 3 yw hon. Mae tuedd i’r trefi a’r cymdogaethau hyn gynnwys cyfran uwch o bobl 25-44 oed a niferoedd is o bobl sydd wedi ymddeol na mannau eraill yng Nghymru. Mae tuedd iddynt gynnwys cyfran rywfaint yn uwch o berchnogaeth ar dai a lefelau uwch o gartrefi cymdeithasol ar rent. Mae mwy o bobl mewn gwaith a chyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru, ac mae llawer iawn yn berchen ar fwy nag un car. Ar gyfartaledd, maent yn cynnwys cyfran uwch o siaradwyr Cymraeg, er bod cyfran y bobl a aned yng Nghymru neu sy’n nodi bod ganddynt hunaniaeth Gymraeg tua’r un fath â chyfartaledd Cymru.

Tref ganolig yng nghategori 3 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl 25-44 oed a niferoedd is o bobl sydd wedi ymddeol na mannau eraill yng Nghymru. Mae tuedd iddynt gynnwys cyfran rywfaint yn uwch o berchnogaeth ar dai a lefelau uwch o gartrefi cymdeithasol ar rent. Mae mwy o bobl mewn gwaith a chyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru, ac mae llawer iawn yn berchen ar fwy nag un car. Ar gyfartaledd, maent yn cynnwys cyfran uwch o siaradwyr Cymraeg, pobl a aned yng Nghymru a phobl sy’n nodi bod ganddynt hunaniaeth Gymreig.

Tref fawr yng nghategori 3 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl 25-44 oed a niferoedd is o bobl sydd wedi ymddeol na mannau eraill yng Nghymru. Mae tuedd iddynt gynnwys cyfran rywfaint yn uwch o berchnogaeth ar dai a lefelau uwch o gartrefi cymdeithasol ar rent. Mae mwy o bobl mewn gwaith a chyflogaeth amser llawn na chyfartaledd Cymru, ac mae llawer iawn yn berchen ar fwy nag un car. Ar gyfartaledd, maent yn cynnwys cyfran uwch o bobl a aned yng Nghymru a phobl sy’n nodi bod ganddynt hunaniaeth Gymreig na chyfartaledd Cymru, ond cyfran is o bobl sy’n siarad Cymraeg.

Dinas yng nghategori 3 yw hon. Mae gan y dinasoedd hyn gyfran uwch na’r cyfartaledd o bobl sengl, pobl sy’n byw mewn aelwydydd amlbreswyl a rhai sy’n byw mewn llety preifat ar rent. Mae cyfran is na’r cyfartaledd o bobl briod. Mae cyfran uwch na’r cyfartaledd o bobl â chymwysterau lefel gradd ac wedi’u cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol a rheoli. Mae llai o bobl wedi’u cyflogi ym maes gweithgynhyrchu, gyda chyfran fymryn yn uwch o bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus a swyddi gwasanaeth, megis llety, TGCh, cyllid ac addysg. Mae cyfran uwch o bobl yn cael eu dosbarthu’n rhai economaidd segur, er y gall cyfran uwch na’r cyfartaledd o fyfyrwyr egluro hynny. Mae ganddynt gyfran uwch o’r boblogaeth sy’n uniaethu â grŵp ethnig Du, Asiaidd a lleiafrifol na’r rhan fwyaf o Gymru. Mae cyfran y bobl sy’n dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn is nag yng Nghymru yn gyffredinol, ac mae lefelau is o siarad Cymraeg

Categori 4
Tref neu gymdogaeth fach yng nghategori 4 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl dros 45 oed a llai o bobl rhwng 16 a 44 oed nag yng Nghymru yn gyffredinol. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl wedi ymddeol, pobl briod a llai o aelwydydd sengl. Mae perchnogaeth ar gartref yn drawiadol uwch nag mewn llawer rhan o Gymru, ac mae’r sector cymdeithasol ar rent yn llawer is. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl sy’n hunangyflogedig neu’n gweithio mewn swyddi proffesiynol a rheoli, ac mae tuedd i’r boblogaeth feddu ar gymwysterau uwch, a bod graddau gan fwy o bobl, nag mewn mannau eraill. Mae’r mannau’n tueddu i fod yn fwy gwledig, ac mae nifer uwch na’r cyfartaledd yn berchen ar fwy nag un car. Ganed mwy na’r cyfartaledd o’r bobl sy’n byw yma y tu allan i Gymru, ac mae llai o bobl yn dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig neu’n siarad Cymraeg.

Tref ganolig yng nghategori 4 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl dros 65 oed a llai o bobl rhwng 16 a 44 oed nag yng Nghymru yn gyffredinol. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl wedi ymddeol ac aelwydydd un person. Mae lefelau rhentu preifat yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae tuedd bod yma gyfran is o bobl sy’n gweithio mewn swyddi proffesiynol a rheoli, ac mae tuedd bod gan y boblogaeth lai o gymwysterau. Mae tuedd bod gan fwy o bobl iechyd gwael, ac mae cyfran yr aelwydydd heb gar at eu defnydd yn uwch na’r cyfartaledd. Ganed mwy na’r cyfartaledd o’r bobl sy’n byw yma yng Nghymru, ac mae mwy yn dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig, ond mae llai yn siarad Cymraeg

Categori 5
Tref fach yng nghategori 5 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl dros 65 oed a llai o bobl rhwng 16 a 44 oed nag yng Nghymru yn gyffredinol. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl wedi ymddeol a phobl sengl, a llai o aelwydydd priod â phlant. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl sy’n hunangyflogedig neu’n gweithio’n rhan amser, yn arbennig yn y diwydiannau llety, bwyd a gwasanaethau. Mae’r mannau’n tueddu i fod yn fwy gwledig, ac mae nifer is na’r cyfartaledd yn berchen ar fwy nag un car. Ganed mwy na’r cyfartaledd o’r bobl sy’n byw yma y tu allan i Gymru, ac mae llai o bobl yn dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig, er bod cyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg yn gymharol uchel.

Tref ganolig yng nghategori 5 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl dros 65 oed a llai o bobl rhwng 16 a 44 oed nag yng Nghymru yn gyffredinol. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl wedi ymddeol a phobl sengl, a llai o aelwydydd priod â phlant. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau llety, bwyd a gwasanaethau. Mae tuedd i’r mannau hyn fod yn wledig. Ganed mwy na’r cyfartaledd o’r bobl sy’n byw yma y tu allan i Gymru, ac mae llai o bobl yn dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig, er bod cyfran y preswylwyr sy’n siarad Cymraeg yn gymharol uchel.

Tref fawr yng nghategori 5 yw hon. Mae tuedd i’r trefi hyn gynnwys cyfran uwch o bobl dros 65 oed a llai o bobl rhwng 16 a 44 oed nag yng Nghymru yn gyffredinol. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl wedi ymddeol a phobl sengl, a llai o aelwydydd priod â phlant. Mae tuedd bod cyfran uwch o bobl sy’n gweithio mewn cyflogaeth gwasanaeth a sector cyhoeddus, a rhai sydd mewn galwedigaethau proffesiynol a rheoli, ac mae mwy o bobl na’r cyfartaledd yn raddedigion. Ganed mwy na’r cyfartaledd o’r bobl sy’n byw yma y tu allan i Gymru, ac mae llai o bobl yn dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig neu’n siarad Cymraeg.

Categori 7
Tref neu gymdogaeth fach yng nghategori 6 yw hon. Mae’r trefi neu’r cymdogaethau hyn yn tueddu i fod mewn mannau gwledig, ac at ei gilydd yn adlewyrchu nodweddion demograffig a sosio-economaidd llawer o fannau yng Nghymru, er bod tuedd i gael nifer rywfaint yn uwch o achosion o bobl sy’n dioddef iechyd gwael, sy’n segur yn economaidd, ac sydd mewn cyflogaeth ran amser. Un nodwedd allweddol yw bod y mannau hyn, ar gyfartaledd, yn cynnwys mwy o bobl a aned yng Nghymru, sy’n dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig, ac sy’n siarad Cymraeg, na chyfartaledd Cymru.

Tref ganolig yng nghategori 6 yw hon. Mae’r trefi hyn yn tueddu i fod mewn mannau gwledig, ac at ei gilydd yn adlewyrchu nodweddion demograffig a sosio-economaidd llawer o fannau yng Nghymru, er bod tuedd i gael nifer rywfaint yn uwch o achosion o bobl sy’n dioddef iechyd gwael. Un nodwedd allweddol yw bod y mannau hyn, ar gyfartaledd, yn cynnwys mwy o bobl a aned yng Nghymru, sy’n dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig, ac sy’n siarad Cymraeg, na chyfartaledd Cymru.

Categori 7
Tref ganolig yng nghategori 7 yw hon. Mae ei nodweddion yn adlewyrchu presenoldeb prifysgol fel cyflogwr o bwys, a’r boblogaeth gymharol fawr o fyfyrwyr. Mae gan y trefi gyfran sylweddol uwch na’r cyfartaledd o bobl 16-24 oed, aelwydydd myfyrwyr ac un person, aelwydydd preifat ar rent, a llai o aelwydydd ym meddiant y preswylwyr. Mae mwy o bobl yn gweithio mewn swyddi rhan amser, ac yn y galwedigaethau llety, bwyd a gwasanaeth a byd addysg, ac mae gan lawer mwy o bobl na’r cyfartaledd gymwysterau safon uwch a graddau. Mae cyfran uwch o aelwydydd heb gar at eu defnydd. Mae ganddynt gyfran uwch o’r boblogaeth sy’n uniaethu â grŵp ethnig Du, Asiaidd a lleiafrifol na’r rhan fwyaf o Gymru. Ganed llai o bobl yng Nghymru ac mae’r gyfran sy’n dweud bod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn isel, er bod lefel y siaradwyr Cymraeg yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru.